YNYSU’R ATIG
Ar gyfartaledd mae cartrefi yn colli tua 25% o wres drwy’r to. Y dyddiau hyn, argymhellir Ynysu’r Atig hyd at 300mm (12”) o drwch, felly gellir arbed tua 20% ar gostau gwresogi yn ogystal ag 1.5 tunnell fetrig o allyriannau CO2 bob blwyddyn. Hyd yn oed os oes gennych ynysydd teneuach yn yr atig, mae’n werth rhoi rhagor yno!
Gyda thros 40 mlynedd o brofiad, mae gan Red Wharf Developments Ltd yr arbenigedd a’r gallu i asesu ac uwchraddio eich atig.
Mae Manteision Ynysu’r Atig yn Cynnwys:
- Biliau gwresogi is, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
- Cartref cynhesach yn y gaeaf, oerach yn yr haf.
- Llai o berygl y bydd problemau anwedd dŵr.
- Arbed tuag 1.5 tunnell fetrig o allyriannau CO2 bob blwyddyn – Achubwch y Ddaear!
Gall Red Wharf Developments Ltd gynnig atebion i lawer o brobemau cymhleth yn yr atig mewn cartrefi ac eiddo masnachol.