YNYSU WALIAU SOLID
Mae’n bosib ynysu tai hŷn sydd â waliau solid hefyd, a lle mae garej wedi’i throi yn ystafell, er nad oes ceudod, er mwyn lleihau faint o wres sy’n cael ei golli a gostwng biliau tanwydd.
Mae gan Red Wharf Developments Ltd brofiad helaeth o ynysu waliau solid, wedi bod yn rhan o brosiectau mawr ym maes tai a thrin adeiladau diwydiannol dros y 40 mlynedd diwethaf.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd i ddylunio systemau ynysu waliau solid “wedi’u teilwra” gyda leinin mewnol ar gyfer waliau allanol y tai. Yna bydd ein crefftwyr ein hunain yn gosod y system – yn ffitwyr, plastrwyr a seiri.
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib a chadw’r gost i lawr, gallwn drin gwahanol ystafelloedd fesul un, yn aml gan wneud hynny ar yr un pryd â gwaith ailaddurno rydych eisoes wedi’i drefnu.
.